Psalms 131

Trystio'r Arglwydd

Cân yr orymdaith. Salm Dafydd.

1O Arglwydd, dw i ddim yn berson balch
nac yn edrych i lawr ar bobl eraill.
Dw i ddim yn chwilio am enwogrwydd
nac yn gwneud pethau sy'n rhy anodd i mi.
2Dw i wedi dysgu bod yn dawel a diddig,
fel plentyn bach ym mreichiau ei fam.
Ydw, dw i'n dawel a bodlon
fel y plentyn sy'n cael ei gario.
3O Israel, trystia'r Arglwydd
o hyn allan ac am byth.
Copyright information for CYM